DSC_7240.jpg

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn ysbrydoli ac addysgu ym mhrifddinas Cymru. Rydyn ni'n arddangos gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ac yn eu cyfuno â'r brifddinas. Bydd yr ŵyl bedwar diwrnod yn cael ei chynnal o fewn llyfrgelloedd, caffis, tafarnau ac ar hyd strydoedd gyda digwyddiadau dirgel i'w darganfod.

Ein hamcan yw dathlu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a'r ffordd maent yn effeithio ein bywydau bob dydd. Rydym yn dod â'r wyddoniaeth i chi gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n sicr o'ch diddanu a'ch addysgu.

Hwb ar gyfer ymchwil gwyddonol a chyfathrebwyr gwyddoniaeth fyd-enwog yw Caerdydd. Wrth ddilyn ein map trwy'r ddinas, cewch ddysgu rhywbeth newydd o'r ymchwilwyr a chyfathrebwyr gorau ein hardal leol.

Ein Partneriaid yn 2021

UKRI logo.png
1280px-Renishaw_logo.svg.png
 
RSC_logo_POS_RGB_M.png

Ein Cefnogwyr

Gŵyl annibynnol yw Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd a'i threfnir gan wirfoddolwyr. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd yn cefnogi a threfnu'r ŵyl. Mae eu hymrwymiad yn ein galluogi i gynnal gŵyl gyffrous ac arloesol.