EmmaYhnell.jpg

FameLab

Mae FameLab yn gystadleuaeth cyfathrebu gwyddoniaeth ryngwladol sy’n rhoi’r cyfle i wyddonwyr a pheirianwyr rannu eu brwdfrydedd dros ymchwil â’r cyhoedd. FameLab fydd yn cynnal rownd flynyddol rhanbarth Caerdydd.


Drwy FameLab, mae miloedd o wyddonwyr a pheirianwyr yn cyfathrebu eu gwaith drwy gyflwyniadau 3 munud o hyd. Bydd enillwyr pob rhanbarth yn mynd i’r rownd derfynol genedlaethol, a bydd enillydd hon yn mynd yn ei flaen i’r rownd derfynol ryngwladol. Mae’r cyflwynwyr yn cael hyfforddiant rhad ac am ddim i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a chynyddu eu hyder.


Mae’n bleser gan FameLab gyhoeddi y byddwn yn cynnal rownd ranbarthol Caerdydd o 2021 ymlaen! Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi ymchwilwyr lleol sy’n frwdfrydig dros gyfathrebu gwyddoniaeth a dangos i weddill y byd beth all Caerdydd a Chymru ei wneud!


Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan, gallwch wneud hynny drwy wefan FameLab. Os nad ydych eisiau cymryd rhan, dewch draw i wylio’r rhai fydd yn cystadlu a dysgu am ei hymchwil anhygoel. Byddwn yn cyhoeddi manylion am pryd, lle a sut gallwch wylio’r rownd ranbarthol ym mis Ionawr 2021, felly cadwch lygad ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol.